Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 22 Hydref 2024
Amser:
09.00 -
09.37
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Llyr Gruffydd AS Jane Hutt AS Darren Millar AS |
|
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Lisa Griffiths (Dirprwy Glerc) |
|
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru Aled Ap Neill, Ysgrifenyddiaeth y Siambr |
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Heledd Fychan. Roedd Llyr Gruffydd yn bresennol ar ei rhan.
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi
Dydd Mawrth
Gofynnodd y Rheolwyr Busnes am Ddatganiad Llafar brys gan Lywodraeth Cymru ar y gwrthdrawiad rhwng dau drên yn y Canolbarth nos Lun. Dywedodd y Trefnydd fod Datganiad Ysgrifenedig yn cael ei lunio ac y byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i Ddatganiad Llafar yn y Cyfarfod Llawn heddiw.
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
· Nid yw’r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.50pm
Dydd Mercher
· Bydd y Cyfnod Pleidleisio yn digwydd cyn y Ddadl Fer.
· Nid yw’r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 8.10pm
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mawrth 5 Tachwedd 2024
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Gwella safonau addysgol yng Nghymru (45 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Cyllideb y DU (45 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (45 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Sefydliadau GIG Cymru – diweddariad uwchgyfeirio (45 munud)
Dydd Mawrth 12 Tachwedd 2024
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Cofio (45 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Wythnos Gwrth-fwlio: Iechyd meddwl a llesiant dysgwyr (45 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer pleidiau gwleidyddol (45 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: Diogelwch Adeiladau (45 munud)
· Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2023-24 (60 munud)
Gofynnodd Llyr Gruffydd am Ddatganiad Llafar ar bwysau’r gaeaf yn y GIG. Nododd y Trefnydd fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi gwneud datganiad ar barodrwydd ar gyfer y gaeaf yn y GIG ar 24 Medi.
Cytunwyd ar y newidiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 6 Tachwedd 2024 –
Dydd Mercher 20 Tachwedd 2024 –
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad terfynol i bwyllgorau gyflwyno adroddiad ar egwyddorion cyffredinol y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru), sef 14 Chwefror 2025, a dyddiad terfynol ar gyfer cwblhau trafodion Cyfnod 2, sef 4 Ebrill 2025.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y caiff y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ddechrau ei gyfarfod ar 4 Tachwedd am 11am, y tu allan i’w slot arferol.
Trafododd y Pwyllgor Busnes opsiynau o ran amserlennu, natur a strwythur cyfnod treialu posibl ar gyfer dadl ffurf hirach achlysurol yn ystod amser Busnes y Senedd yn ystod 2025.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymgynghori â’r Aelodau o’r Senedd a wnaeth y cynnig gwreiddiol a grwpiau’r pleidiau ar ddull gweithredu arfaethedig ar gyfer y cyfnod treialu, ar y sail a ganlyn: